Mae sgarpiau sgri calchfaen yn dirffurfiau bregus rydym yn eu cadw mewn cyflwr mor naturiol â phosibl. Mae rhai o’r enghreifftiau gorau ym Mhrydain i’w gweld yng ngogledd Cymru!
Yn ogystal â bod yn gartref i blanhigion sydd yn ffynnu ar galch megis Llin y Tylwyth Teg a Phig yr Aran Ruddgoch, maent yn denu peillwyr pwysig megis y Fritheg Berlog.