Ynglyn
Mae nifer o opsiynau beicio yn aros amdanoch ar hyd arfordir Gogledd Cymru, p’un a ydych yn chwilio am her faith neu ddiwrnod allan i’r teulu, mae’r posibiliadau beicio yn amrywiol ac yn ddiddiwedd. Bydd Llwybr Arfordir Gogledd Cymru yn mynd â chi drwy gyrchfannau glan môr megis Prestatyn a’r Rhyl, gyda Llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 5 yn mynd â chi’r holl ffordd i Gaergybi! Mae’r rhan fwyaf o’n llwybrau beicio yn yr ardal hon yn wyneb caled, gan gynnig golygfeydd ysblennydd o’r môr a’r mynyddoedd. Mae hwn yn lleoliad delfrydol: hawdd cyrraedd ato gyda digon o lety a bwytai ar gael.
Yn y Rhyl, byddwch yn dod o hyd i Marsh Tracks, menter gyffrous sy’n cynnwys 1.3 cilomedr o lwybr beicio ar y ffordd cylch cyfyng, llwybr rasio BMX safonol cenedlaethol gyda llifoleuadau sy’n cynnwys giât Bensink, neidiau ac ysgafellau, yn ogystal â llwybr beicio mynydd i brofi eich sgiliau. Mae hyfforddi a llogi beiciau ar gael ac mae llawer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yma drwy’r flwyddyn.