Chwilio am Lwybr
Mynediad Cyfrifol
- Ffeithiau SgriYn ogystal â bod yn gartref i blanhigion sydd yn ffynnu ar galch megis Llin y Tylwyth Teg a Phig yr Aran Ruddgoch, maent yn denu peillwyr pwysig megis y Fritheg Berlog.
- Ffeithiau Sgri
Efallai mai’r sylfaen mawn sydd o dan ein rhostir yw ein hased pwysicaf. Mae mawn yn creu amgylchedd sydd yn anhygoel o gyfoethog ar gyfer nifer o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, ond mae’n gyfansoddyn bregus o’n tirwedd unwaith y caiff y llystyfiant ei golli.
Heb frolio, ond mae un o goed mwyaf prin y DU yn cuddio yn y craciau ar ein clogwyni sgri. Mae Cerddinen Seisnig – math o gerddinen wen i’w chanfod yma, rhan o’r llai na 250 o sbesimen sydd yn bodoli.
Yn ogystal â bod yn gartref i blanhigion sydd yn ffynnu ar galch megis Llin y Tylwyth Teg a Phig yr Aran Ruddgoch, maent yn denu peillwyr pwysig megis y Fritheg Berlog.
Mae sgarpiau sgri calchfaen yn dirffurfiau bregus rydym yn eu cadw mewn cyflwr mor naturiol â phosibl. Mae rhai o’r enghreifftiau gorau ym Mhrydain i’w gweld yng ngogledd Cymru!
Mae 75% o rostir grugog y byd i’w ganfod yma yn y DU. Mae gennym gyfrifoldeb tuag at ei iechyd a’i gynhyrchiant.
Mae dros 75% o boblogaeth y Rhugair Ddu yng Nghymru i’w ganfod yma ar rostir Rhiwabon.
Mae rhostir grugog yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt sydd yn ddibynnol ar y cynefin, gan gynnwys Cacynen y Llus, Glöyn Byw Brithribin Gwyrdd, Ehedydd, Cwtiad Aur a Bod Tinwen.