Disgrifiad o'r Llwybr
Man Dechrau: Canolfan Ymwelwyr Coed Llandegla, LL11 3AA
Felly mae’r ffitrwydd gyda chi ac rydech am roi cynnig ar feicio mynydd? Dyma lwybr da i roi cynnig arni cyn mynd i’r afael â thaith canolig. Y mae dal yn 12km mewn hyd, ac mae yna ddringo graddol trwy y goedwig, hyd nes y mae yn rhannu oddi wrth y llwybr canolig. Yna cewch ystyr beicio mynydd – cewch eich gwobrwyo am ddringo i fyny yr allt!
Gellir mwynhau y llwybr sy’n llifo yn ôl i’r Ganolfan – sydd gan fwyaf yn disgyn yn raddol – gyda peth dringiadau bychan, er mwyn eich cadw ar flaenau eich traed! Y mae gan y llwybr hwn rhannau gyda nodweddion twmpathau (rolwyr) bychan i ychwanegu peth her! Gall fod y llwybr yn wlyb gyda mwd, yn dibynnu ar y tywydd.