Disgrifiad o'r Llwybr
Man Dechrau: Llandegla
Cyfeirnod Grid : SJ198516
O Landegla i Gorwen: Mynydd Llandysilio
Mae’r ail ddiwrnod yn ddiwrnod byrrach o feicio, gyda llai o ddringfeydd. Os ydych chi am ymgymryd â’r her pum niwrnod, ac os ydi’ch coesau yn dal yn gweithio, beth am fynd i ganolfan feicio mynydd Llandegla? Bydd tro sydyn ar hyd y llwybrau yn rhoi diwrnod o antur!
Bydd yn rhaid i chi ddod i arfer agor a chau giatiau ar hyd rhan ganol y llwybr hwn sy’n mynd â chi allan o bentref cysglyd Llandegla a thrwy gefn gwlad nodedig Cymru i Landysilio. Er yr holl giatiau mi fyddwch chi wrth eich bodd gyda’r golygfeydd i lawr Dyffryn Dyfrdwy, ac unwaith y byddwch chi dros y mynydd fe allwch chi fynd yn syth yn eich blaenau i Gorwen lle cewch hyd i nifer o lefydd hyfryd i fwyta ac aros.
I gael blas o’r llwybr o’ch blaenau, gwyliwch Antur Beicio Mynydd: Cymru.