Disgrifiad o'r Llwybr
Man Dechrau: Pentref Cyffylliog. Nid oes maes parcio ar gychwyn y reid hon. Parcio ar y ffordd yn y pentref. Sicrhewch nad ydych yn rhwystro traffig na gatiau ac ati.
Cyfeirnod Grid : SJ060578
Er yn eithaf hir, nid yw’r llwybr hwn yn rhy dechnegol, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer beicwyr sy’n ffit ond sydd well ganddynt lwybrau llai technegol. Mae’r llwybr yn mynd â chi trwy Goedwig Clocaenog, sy’n enwog am gynnal rowndiau Rali’r WRC, cartref y rug iar ddu prin, ac un o’r ychydig fannau lle gellir gweld y Wiwer Goch. Mae Llyn Brenig yn lyn mawr a luniwyd gan ddyn ac mae’r llwybr hwn yn mynd â chi yr holl ffordd o gwmpas y lan, gyda chyfle i gael byrbryd yn y ganolfan ymwelwyr, cyn dod â chi dros fur yr argae ei hun ar gyfer y daith yn ôl trwy’r goedwig. Reid wych ar gyfer y diwrnod, ac un na ddylid ei rhuthro.